Skip to main content

Mae’r hinsawdd yng Nghymru yn newid, a chaiff hyn sawl math o effaith ar goed a choetiroedd.

Rhown yma grynodeb o’r prif effeithiau, adnoddau i gefnogi ymaddasu, a gwybodaeth am bolisi newid hinsawdd, llywodraethiant coedwigoedd, a chefnogaeth grantiau.

Rhagolygon am newid hinsawdd

Y rhagfynegiad yw y bydd yr hinsawdd yng Nghymru yn newid, gyda chynnydd mewn tymheredd cymedrig ym mhob rhan o Gymru ym mhob tymor, gan gynnwys gaeafau mwynach gyda llai o ddyddiau o rew ar y ddaear ac eira’n gorwedd ar y tir. Ceir mwy o stormydd, a newidiadau ym mhatrymau glawiad tymhorol, gyda hydrefau a gaeafau gwlypach, a’r gwanwyn a’r hafau’n fwy sych.

Effeithiau newid hinsawdd

Bydd y newidiadau hyn yn yr hinsawdd yn effeithio ar goedwigaeth yng Nghymru mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Mwy o risg o ddifrod oherwydd gwynt a stormydd, a thirlithriadau yn digwydd
  • Mwy o risg o lifogydd, dyfrlenwi a phridd yn erydu
  • Mwy o risg y bydd tanau gwyllt yn digwydd
  • Mwy o risg o sychder yn yr haf, yn  enwedig yn ne Cymru
  • Gallai cysgiad hwyrach gynyddu tyfiant yn hwyr yn y tymor, gan effeithio ar ansawdd y pren
  • Os bydd coed yn egino’n gynt, gall hyn gynyddu’r risg o ddifrod gan rew yn y gwanwyn
  • Tymhorau tyfu hwy a chynhesach a allai gynyddu tyfiant coed lle nad oes cyfyngu ar ffactorau eraill (megis argaeledd dŵr a maethynnau)

Gall effeithiau andwyol newid hinsawdd wneud coedwigoedd yn fwy agored i blâu pryfed neu ddifrod gan bathogenau. Bydd y newid yn yr hinsawdd  hefyd yn caniatáu i ystod a phoblogaeth rhai mathau o blâu a phathogenau ehangu, a bydd hyn yn arwain at fwy o risg i goed gael eu difrodi a marw oherwydd eu bod yn agored i blâu a chlefydau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes.

Mae  Trydydd Asesiad Risg Newid Hisawdd y DU (CCRA3) 2022 yn cynnwys Crynodeb Rhanbarthol o Adroddiad-Tystiolaeth-am-Gymru a briffiad i sector y DU o ran defnydd tir, newid yn nefnydd tir a choedwigaeth (LULUCF).

Addasu

Mae Forest Research yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau allweddol ac argymhellion ar gyfer newid hinsawdd yng Nghymru gan gynnwys trosolwg o addasu coedwigoedd a choetiroedd.

Datblygodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ganllaw coetiroedd a choedwigoedd ac adnoddau ar gyfer cynyddu gwytnwch gan gynnwys Canllawiau Arfer Da o ran cynyddu amrywiaeth rhywogaethau o goed a gwella amrywiaeth strwythurol coetiroedd Cymru.

Llywodraethiant coedwigoedd

Cyfoeth Naturiol Cymru  sy’n rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yng Nghymru, ac y maent yn gweithredu fel yr awdurdod rheoleiddio coedwigaeth ar ran Senedd Cymru (Llywodraeth Cymru).

Coetiroedd i Gymru yw strategaeth 50-mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd a choed yng Nghymru, gan gynnwys ymateb i newid hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu canllawiau, polisïau a chyhoeddiadau am goedwigaeth.

Polisi

Mae Deddf Newid Hinsawdd 2008, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016 yn darparu fframwaith cyfreithiol polisi newid hinsawdd yng Nghymru. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru darged sero net am 2050 yn Rheoliadau Newid Hinsawdd (Diwygio) (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2021.

Amlinellir cynlluniau Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r  targedau lleihau allyriadau mewn cyllidebau pum-mlynedd, sef ar hyn o bryd Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021 i 2025). Cynllun cenedlaethol Llywodraeth Cymru i addasu i newid hinsawdd yw Ffyniant i Bawb: Cymru sy’n effro i’r Hinsawdd.

Grantiau

Mae manylion am grantiau coedwigaeth Llywodraeth Cymru ar gael.

Astudiaeth achos

Mabwysiadwyd systemau coedwrol effaith-isel ar safle agored yng ngogledd-ddwyrain Cymru i helpu i leihau’r risg o niwed gan stormydd ac effeithiau eraill newid hinsawdd.

Further resources

Grantiau coedwigaeth – Llyw.Cymru
Ffyniant i Bawb: Cymru sy’n effro i’r hinsawdd (cynllun addasu pum-mlynedd) – Llyw.Cymru
Cymru sero net cyllideb garbon 2 (2021–2025)
Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 – Cyfoeth Naturiol Cymru
Addasu coedwigoedd a choetiroedd yng Nghymru i hinsawdd y dyfodol – Ymchwil Coedwigaeth
This field is hidden when viewing the form