Crynodeb

Mae Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Planhigion Cymru (WPHSN) yn brosiect arloesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a’i ddiben yw monitro plâu a phathogenau brodorol a goresgynnol a allai fygwth iechyd planhigion a choed ledled Cymru. Bydd gorsafoedd monitro pryfed a sborau a osodir mewn safleoedd coetiroedd strategol yn caniatáu inni gofnodi presenoldeb a/neu helaethrwydd pryfed a sborau ffwngaidd. Caiff samplau biolegol eu casglu a’u dadansoddi gan dîm WPHSN gan ddefnyddio cyfleusterau labordai ym Mhrifysgol Abertawe. Cesglir samplau fel rhan o waith monitro amgylcheddol ehangach ar lefel Prydain Fawr ynghylch chwilod rhisgl Ips typographus, ac anfonir y samplau hynny i’n cyfleusterau iechyd planhigion o’r radd flaenaf yn Alice Holt i’w profi mewn labordai.
Mae adolygiadau llawn o’r ymgyrchoedd gwaith maes blynyddol ar gael i’w lawrlwytho isod. Mae’r dogfennau hyn yn disgrifio ac yn adrodd ar y gweithgareddau a gynhaliwyd ym mhob un o flynyddoedd y prosiect arloesol hwn.
Amcanion yr ymchwil
![]()
Amcan yr ymchwil barhaus hon yw cyflawni’r elfen sy’n ymwneud a choed ar waith Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Planhigion Cymru (WPHSN), un o flaengareddau iechyd planhigion Llywodraeth Cymru. Caiff samplau biolegol eu casglu a’u dadansoddi gan staff Ymchwil Coedwigaeth sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, a chymorth gan staff labordai Gwasanaeth Diagnostig ac Ymgynghorol Iechyd Coed sydd wedi’u lleoli yn Alice Holt ac yng Ngorsaf Ymchwil y Gogledd. Yn WPHSN, byddwn yn:
- lleoli gorsafoedd monitro sborau a phryfed ar draws coetiroedd Cymru
- casglu data ac adeiladu map dosbarthiad o blâu a phathogenau, gan gofnodi eu nifer;
- cynorthwyo â phrosesau gwneud penderfyniadau a llywio datblygiad polisïau a gweithdrefnau yn y dyfodol yn ymwneud â rheoli coetiroedd yng Nghymru;
- chydweithio ag asiantaethau allanol i ehangu’r rhwydwaith gwyliadwriaeth iechyd planhigion; a
- rhannu gwybodaeth a chyngor â’r sector a chynnig cymorth hygyrch ac ymarferol i allu canfod a nodi plâu a phathogenau coed yn gynnar yng Nghymru
Y diweddariadau mwyaf newydd
2025 – y pedwerydd tymor
- Defnyddiwyd gorsafoedd monitro pryfed ledled Cymru gan ddilyn yr un patrwm a fabwysiadwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol fwy neu lai, ac ychwanegwyd rhywfaint o safleoedd ble tyfir pyrwydd Sitka a oedd wedi profi difrod gan y gwynt yn sgil Storm Darragh.
- Defnyddiwyd trapiau esgyll croes i ganfod chwilod rhisgl Ips typographus ac Ips cembrae , a defnyddiwyd 57 o drapiau twndis i ganfod rhywogaethau pryfed eraill, gan gynnwys ymdeithiwr y derw (OPM), siobyn y sipsi, chwilod Agrilus a Monochamus alternatus.
- Defnyddiwyd cyfanswm o 12 samplwr aer ledled Cymru mewn coetiroedd coed conwydd a llydanddail. Mae’r samplau’n cael eu dadansoddi i ganfod ystod o bathogenau a gludir yn yr aer a dargedir gan y prosiect.
- Yn 2025, cafwyd rhagor o gynnydd yn y cydweithio â rhwydwaith y safleoedd sentinel, ein cydweithwyr ym maes coedwigaeth yn Lloegr a’r Alban, a’n cydweithwyr allanol yn Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
- Fe wnaethom groesawu Dr Matthew Watkins i’r tîm i gynorthwyo ag elfen gwaith maes WPHSN ac i ymgymryd â gwaith dadansoddi samplau o ronynnau a gludir yn yr aer mewn labordy.
2024 – y trydydd tymor
- Gosodwyd cyfanswm o 86 o drapiau pryfed ledled Cymru yn yr un patrwm yn fras ag a fabwysiadwyd yn 2022 a 2023.
- O’r rhain, roedd 29 yn drapiau esgyll croes i ganfod chwilod rhisgl Ips typographus, Ips amitinus, ac Ips cembrae, ac roedd 57 yn drapiau pryfed canopi i ganfod rhywogaethau pryfed eraill, gan gynnwys chwilod megis ymdeithiwr y derw (OPM), siobyn y sipsi, ac Agrilus.
- Cafwyd methiannau mecanyddol dro ar ôl tro yn achos y trapiau sborau ffyngau a ddefnyddiwyd yn 2024 ac fe wnaeth hynny ein hatal rhag casglu samplau DNA defnyddiadwy o fewn y tymor.
- Mae’r cydweithio â rhwydwaith y safleoedd sentinel wedi parhau i gynyddu yn 2024.
2023 – yr ail dymor
- Defnyddiwyd cyfanswm o 67 o drapiau pryfed a 6 o drapiau sborau ledled Cymru, gan ddefnyddio’r siâp ‘J’ a llinell echelin de-gogledd unwaith eto i sicrhau digon o gwmpas daearyddol o amgylch llwybrau posibl.
- Sefydlwyd 33 trap esgyll croes i ganfod chwilod rhisgl Ips typographus a Ips cembrae mewn safleoedd risg uchel a ddewiswyd yn ofalus ledled Cymru.
- Gosodwyd 34 o drapiau pryfed canopi yn Ystâd Llywodraeth Cymru (a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru) ac mewn safleoedd sentinel ledled Cymru i ganfod rhywogaethau ymdeithiwr y derwen (OPM) ac Agrilus.
- Mae’r trapiau sborau ffyngau yn dal yn eu lle yn Nhal-y-bont ar Wysg ac yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru (NBGW), ac mae rhagor o oruchwyliaeth yn digwydd yn y Y Cot yn Ne-ddwyrain Cymru.x
- Mae cydweithredu â’r rhwydwaith safleoedd sentinel wedi parhau, a bydd rhagor o safleoedd yn dod yn rhan o’r rhwydwaith eleni ac yn ystod 2024.
2022 – y tymor cyntaf
- Defnyddiwyd cyfanswm o 33 o drapiau pryfed a 2 drap sborau ar ffurf siâp J o ganolbarth i dde Cymru.
- Gosodwyd 20 o drapiau esgyll croes, yn bennaf i ganfod chwilod rhigl Ips typographus a Ips cembrae.
- Defnyddiwyd 13 trap pryfed canopi arall ar rannau o Ystâd Coetiroedd Llywodraeth Cymru (a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru) ac mewn dau o’r safleoedd safleoedd; Parc Gwledig Loggerheads ac yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru (NBGW). Gosodwyd nifer o’r trapiau hyn rhwng mis Mehefin ac Awst i ganfod rhywogaethau ymdeithiwr derw (OPM) ac Agrilus.
- Gosodwyd trapiau sborau ffyngau yn yn Nhal-y-bont ar Wysg ac yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru (NBGW).
- Cychwynnwyd y cydweithredu â staff yn rheoli rhai o safleoedd sentinel iechyd planhigion Cymru – ar y cychwyn, yr oedd hynny’n cynnwys y rhai yn NBGW, Parc Gwledig Loggerheads, Castell Powys, a Phlas Newydd (Ynys Môn).
Our Involvement

- Gweithgareddau ymchwil a datblygu.
- Arolygon maes.
- Dadansoddiadau mewn labordai.
- Cofnodi data.
- Rhoi adroddiadau i swyddogion iechyd planhigion yng Nghymru.
- Cydweithredu ag asiantaethau allanol.
- Datblygu ymwybyddiaeth y cyhoedd e.e., drwy weithgareddau cyfnewid gwybodaeth, cyfryngau digidol, ac yn Sioe Frenhinol Cymru.
Lawrlwythiadau
Rhaglen Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Planhigion Cymru: Adolygiad 2024
Disgrifiad o weithgareddau a chanlyniadau trydedd flwyddyn lawn y gwaith maes.
Rhaglen Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Planhigion Cymru: Adolygiad 2023
Disgrifiad o weithgareddau a chanlyniadau ail flwyddyn lawn y gwaith maes.
Rhaglen Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Planhigion Cymru: Adolygiad 2022
Disgrifiad o weithgareddau a chanlyniadau blwyddyn gyntaf yr astudiaeth.
Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Planhigion Cymru
Racheal Lee (2024) The Welsh Plant Health Surveillance Network BGjournal. Cyfrol 21 (2), ttp. 60-62. (Atgynhyrchwyd â chaniatâd caredig Botanic Gardens Conservation International.) Dim ond ar gael yn Saesneg.
Welsh Plant Health Surveillance Network Programme: 2025 review
Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Planhigion Cymru: adolygiad 2025
Funding & Partners
-
This work is funded by the Welsh Government.