Crynodeb

Leone Olivieri and Racheal Lee by monitoring instrumentation in an area of recently-felled woodland.

Mae Rhwydwaith Goruchwyliaeth Iechyd Planhigion Cymru (WPHSN) yn brosiect arloesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a luniwyd i fonitro plâu a phathogenau brodorol ac ymledol a all fygwth iechyd planhigion a choed ledled Cymru. Bydd trapiau pryfed a sborau a osodir ar safleoedd coetiroedd strategol yn ein galluogi i gofnodi presenoldeb a/neu helaethrwydd pryfed a sborau ffyngau. Caiff y samplau o bryfed eu dadansoddi ar y cyfan gan staff yng Nghymru, a chaiff eraill, a’r holl sborau a gesglir, eu hanfon i’n cyfleusterau iechyd planhigion o’r radd flaenaf yn Alice Holt ar gyfer profion labordy manwl. Mae data o’r WPHSN yn cael eu defnyddio i lywio datblygiad nodau a pholisïau blaenoriaethol sy’n ymwneud â rheoli coetiroedd yng Nghymru.

Mae adolygiadau llawn o’r tri thymor gwaith maes cyntaf ar gael i’w lawrlwytho isod.  Mae’r dogfennau hyn yn disgrifio ac yn adrodd ar y gweithgareddau a gyflawnwyd ym mhob blwyddyn o’r prosiect arloesol hwn.

Amcanion yr ymchwil

Racheal Lee sampling for bark beetles in a log from the stem of a felled conifer.Amcan y gwaith ymchwil parhaus hwn yw cyflawni’r elfen seiliedig ar goed o Rwydwaith Arolygiaeth Iechyd Planhigion Cymru (WPHSN), sy’n un o flaengareddau iechyd planhigion Llywodraeth Cymru. Caiff samplau biolegol a gesglir gan staff FR yng Nghymru eu hanfon yn ddiogel i’w dadansoddi a’u diagnosio gan staff labordy’r Gwasanaeth Diagnostig a Chynghori Iechyd Coed yn Alice Holt a Gorsaf Ymchwil y Gogledd. Yn WPHSN, byddwn yn:

  • gosod trapiau sborau a phryfed ledled mewn coetiroedd ledled Cymru;
  • casglu data ac adeiladu map o ddosbarthiad plâu a phathogenau, gan gofnodi eu helaethrwydd;
  • cynorthwyo â phrosesau gwneud penderfyniadau a llywio datblygiad polisïau a gweithdrefnau yn y dyfodol yn ymwneud â rheoli coetiroedd yng Nghymru;
  • achydweithio ag asiantaethau allanol i ddatblygu rhwydwaith gwyliadwriaeth iechyd planhigion, gan ganiatáu i wybodaeth a chyngor gael eu rhannu’n rhwydd â’r sector a darparu cymorth ymarferol hygyrch at ddibenion canfod ac adnabod plâu a phathogenau yn gynnar.

Y diweddariadau mwyaf newydd

2024 – y trydydd tymor

  • Gosodwyd cyfanswm o 86 o drapiau pryfed ledled Cymru yn yr un patrwm yn fras ag a fabwysiadwyd yn 2022 a 2023.
  • O’r rhain, roedd 29 yn drapiau esgyll croes i ganfod chwilod rhisgl Ips typographusIps amitinus, ac Ips cembrae, ac roedd 57 yn drapiau pryfed canopi i ganfod rhywogaethau pryfed eraill, gan gynnwys chwilod megis ymdeithiwr y derw (OPM), siobyn y sipsi, ac Agrilus.
  • Cafwyd methiannau mecanyddol dro ar ôl tro yn achos y trapiau sborau ffyngau a ddefnyddiwyd yn 2024 ac fe wnaeth hynny ein hatal rhag casglu samplau DNA defnyddiadwy o fewn y tymor.
  • Mae’r cydweithio â rhwydwaith y safleoedd sentinel wedi parhau i gynyddu yn 2024.

2023 – yr ail dymor

  • Defnyddiwyd cyfanswm o 67 o drapiau pryfed a 6 o drapiau sborau ledled Cymru, gan ddefnyddio’r siâp ‘J’ a llinell echelin de-gogledd unwaith eto i sicrhau digon o gwmpas daearyddol o amgylch llwybrau posibl.
  • Sefydlwyd 33 trap esgyll croes i ganfod chwilod rhisgl Ips typographus a Ips cembrae  mewn safleoedd risg uchel a ddewiswyd yn ofalus ledled Cymru.
  • Gosodwyd 34 o drapiau pryfed canopi yn Ystâd Llywodraeth Cymru (a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru)  ac mewn safleoedd sentinel ledled Cymru i ganfod rhywogaethau ymdeithiwr y derwen (OPM) ac Agrilus.
  • Mae’r trapiau sborau ffyngau yn dal yn eu lle yn Nhal-y-bont ar Wysg ac yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru (NBGW), ac mae rhagor o oruchwyliaeth yn digwydd yn y Y Cot yn Ne-ddwyrain Cymru.x
  • Mae cydweithredu â’r rhwydwaith safleoedd sentinel wedi parhau, a bydd rhagor o safleoedd yn dod yn rhan o’r rhwydwaith eleni ac yn ystod 2024.

2022 – y tymor cyntaf

Ein Cyfranogiad

Racheal Lee (L) and Leone Olivieri (R) preparing to engage in an informal knowledge exchange event at the 2023 Royal Welsh Show.

  • Gweithgareddau ymchwil a datblygu.
  • Arolygon maes.
  • Dadansoddiadau mewn labordai.
  • Cofnodi data.
  • Rhoi adroddiadau i swyddogion iechyd planhigion yng Nghymru.
  • Cydweithredu ag asiantaethau allanol.
  • Datblygu ymwybyddiaeth y cyhoedd e.e., drwy weithgareddau cyfnewid gwybodaeth, cyfryngau digidol, ac yn Sioe Frenhinol Cymru.

 

Lawrlwythiadau

Cyllid a phartneriaid

  • llywodraeth cymru welsh government Ariennir y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru.