Skip to main content
Date
11 August 2026
Reading Time
4 minutes
Last Updated
11 August 2026

Mae Forest Research, ar ran y Comisiwn Coedwigaeth, Scottish Forestry, a Llywodraeth Cymru, yn lansio Cyfrifiad y Gweithlu Coedwigaeth. Y nod yw deall yn well sut beth yw gweithlu gweithrediadau coedwigaeth ym Mhrydain Fawr heddiw.

Bydd y Cyfrifiad yn nodi maint y gweithlu a graddfa’r gweithrediadau coedwigaeth sy’n digwydd, gan ddarparu tystiolaeth hanfodol i gefnogi dyfodol y sector.

Gofynnir i fudiadau ar draws y sector coedwigaeth gyflwyno gwybodaeth am eu gweithlu ar ddau ddyddiad ar wahân er mwyn cymryd i ystyriaeth rolau sy’n rhai tymhorol – 1 Hydref 2026 ac 1 Mawrth 2027. Gwahoddir pob mudiad i gymryd rhan, o’r rhai sydd ag un person yn unig i gwmnïau mwy gyda llawer o bobl ac is-fudiadau, boed yn gyflogedig a/neu ar gontract.

Bydd y Cyfrifiad yn dal gwybodaeth am bobl sy’n gweithio (yn gyflogedig, ar gontract neu fel arall) ar y gweithgareddau a ganlyn o ran gweithrediadau coedwigaeth:

  • cynllunio
  • cynhyrchu coed /gwaith mewn planhigfeydd
  • paratoi tir, plannu, sefydlu neu gynnal a chadw
  • rheoli coetiroedd a/neu reoli pobl sy’n gweithio ar goetiroedd
  • cynaeafu
  • tynnu pren a gwaith cludo
  • gwaith tirfesur a chreu rhestrau eiddo.

Pwy ddylai gymryd rhan

  • Cwmnïau gyda dim ond un unigolyn, fel unig fasnachwyr a sefydliadau un-person, yr holl ffordd at sefydliadau mwy

Pwy na ddylai gymryd rhan

  • Unigolion a gyflogir gan fudiad. Anelir yr arolwg at gyflogwyr yn hytrach na gweithwyr. Dylai’r rhai mewn safle uwch ac sy’n gwneud penderfyniadau, megis Prif Weithredwyr a chyfarwyddwyr AD, lenwi’r arolwg ar ran y cwmni cyfan.

 

Meddai Sheila Ward, Pennaeth Gwybodaeth ac Ystadegau Coedwigoedd ynForest Research: “Bydd meddu ar wybodaeth gyfoes a manwl gywir am faint a ffurf y gweithlu coedwigaeth yn helpu’r sector i gynllunio at y dyfodol. Mae deall anghenion y gweithlu yn awr ac at y dyfodol yn hanfodol o ran nodi lle mae bylchau sgiliau, ac o ddeall yn well, gallwn nodi camau allai wneud y mwyaf o botensial coedwigaeth. Mae arnom angen i bob mudiad yn y sector coedwigaeth i gymryd rhan er mwyn helpu i gael llun gwirioneddol gynhwysfawr.”

Meddai Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd: “Mae ein gweithlu coedwigaeth yn hollbwysig i Gymru. Bydd y cyfrifiad hwn yn ein helpu i ddeall pa sgiliau mae ar y sector eu hangen i ffynnu a chefnogi twf busnesau mewn coedwigaeth. Rwyf yn annog pob mudiad i gymryd rhan.”

Dywedodd Anna Brown, Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Coedwigoedd y Comisiwn Coedwigaeth: “Bydd  Cyfrifiad y Gweithlu Coedwigaeth yn rhoi i ni’r darlun mwyaf cynhwysfawr ers dros 20 mlynedd o’r bobl sy’n cefnogi gwaith coedwigaeth ledled Prydain Fawr. Bydd y canfyddiadau yn sail o wybodaeth i gynllunio’r gweithlu, yn cefnogi cyflwyno Cynllun Sgiliau’r Sector Coedwigaeth, ac yn cryfhau ymdrechion i ddenu, datblygu a chadw’r gweithlu sy’n meddu ar y sgiliau y mae ar y sector eu hangen. Buaswn yn annog mudiadau o bob cwr o’r sector coedwigaeth i gymryd rhan.

Dywedodd Jason Hubert, Pennaeth Datblygu’r Sector Coedwigoedd yn Scottish Forestry: “Buaswn yn annog pobl i ymateb i’r cyfrifiad hwn. Mae’n bwysig dros ben i goedwigaeth yn ei gyfanrwydd gael gwell data er mwyn gwneud penderfyniadau gwell at y dyfodol a helpu llywodraethau i wneud yn sicr bod cyllid ar gyfer hyfforddiant a chefnogaeth i’r sector yn cyrraedd y mannau iawn. Mae coedwigaeth yn rhan arwyddocaol o economi’r Alban, gan gyfrannu tua £1.1 biliwn bob blwyddyn. Bydd yr hyn a ddysgwn o’r cyfrifiad hwn yn help i sicrhau y bydd gan y sector y sgiliau, y gweithlu a’r gefnogaeth angenrheidiol i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”

O hyn  allan, cynhelir y Cyfrifiad bob pum mlynedd. Bydd y canlyniadau a’r gael i’r cyhoedd.

Am fwy o wybodaeth, ewch at www.forestresearch.gov.uk/census

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch 0300 067 5238 neu e-bostiwch statistics@forestresearch.gov.uk.

Recent News

View All news

A new national map showing the location of trees outside of woodlands across Wales is now available for the first time.

Rhoddwyd caniatâd i fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil newydd i nodi rhestr fer o rywogaethau cynhyrchiol o goed, fydd yn addas ar gyfer amodau hinsawdd yn awr ac a ragfynegir yng Nghymru.

A new national map showing the location of trees outside of woodlands across Wales is now available for the first time.

Rhoddwyd caniatâd i fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil newydd i nodi rhestr fer o rywogaethau cynhyrchiol o goed, fydd yn addas ar gyfer amodau hinsawdd yn awr ac a ragfynegir yng Nghymru.

"*" indicates required fields

This field is hidden when viewing the form