Skip to main content
Date
19 March 2026
Reading Time
5 minutes
Last Updated
19 March 2026

Mae map cenedlaethol newydd yn dangos lleoliad coed y tu allan i goetiroedd ledled Cymru yn awr ar gael am y tro cyntaf.

Mae’r rhaglen ymchwil gynhwysfawr, a gynhaliwyd gan Forest Research, ac a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, yn defnyddio’r delweddau lloeren diweddaraf a data o arolwg cenedlaethol LiDAR i nodi coed y tu allan i goetiroedd, gan ddatgelu bod y coed hyn yn cynrychioli 30% o’r gorchudd coed cenedlaethol ar hyd a lled Cymru.

Mae’r set data sy’n cyd-fynd â’r map yn nodi canopïau pob coeden sydd o leiaf 3 metr o uchder a chydag isafswm arwynebedd coron o 5 metr sgwâr sy’n bodoli y tu allan i ardaloedd sydd eisoes wedi eu mapio fel coetiroedd yn Rhestr y Goedwig Genedlaethol (RhGG). Mae hyn yn cynnwys coed unigol, grwpiau o goed, a choetiroedd bach.

A group of trees in Cardiff city centre.
Coed yng nghanol Caerdydd.

Cynlluniwyd y map, sydd ar gael am ddim trwy borthol data Llywodraeth Cymru, i gefnogi unrhyw un sy’n ymwneud â phlannu neu gynllunio coed yng Nghymru, o grwpiau cymunedol ac elusennau i ffermwyr, coedwigwyr a chyrff cyhoeddus. Bydd yn helpu i nodi lle mae cyfleoedd yn bodoli ar gyfer plannu o’r newydd, adeiladu ar gynlluniau sydd eisoes yn bod, neu nodi lle gellid cysylltu coed unigol â choed a choetiroedd eraill.

Mae coed y tu allan i goetiroedd mewn ardaloedd trefol a gwledig yn chwarae rhan hanfodol. Maent yn storio carbon, yn rheoleiddio tymheredd, ac yn lliniaru effeithiau newid hinsawdd, megis llifogydd a gorboethi trefi a dinasoedd.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog, sy’n gyfrifol am bolisi newid hinsawdd:

“Mae coed y tu allan i goetir yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi natur a helpu i lleihau effaith newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Mae’r map hwn, sy’n darparu darlun cynhwysfawr o ganopi coed Cymru y tu hwnt i goetiroedd, yn ein helpu i gydnabod y cyfraniad y maen nhw’n ei wneud – mae’n agor y drws i wneud penderfyniadau gwell, rhwydweithiau ecolegol cryfach, a darlun cyfoethocach o amgylchedd naturiol Cymru.”

Mae’r map hwn, sy’n darparu darlun cynhwysfawr o ganopi coed Cymru y tu hwnt i goetiroedd, yn ein helpu i gydnabod y cyfraniad y maen nhw’n ei wneud.

Meddai Freddie Hunter, Pennaeth Synhwyro o Bell i Forest Research, “Rydym wedi asio’r delweddau lloeren diweddaraf gydag arolwg Cymreig LiDAR i nodi coed y tu allan i goetiroedd yng Nghymru am y tro cyntaf erioed. Bydd y data yn cefnogi plannu coed wedi’i dargedu, yn gymorth i weld lle mae’r llefydd mwyaf effeithiol i blannu coed newydd, yn ogystal â helpu sefydliadau i gynllunio plannu fydd yn ategu’r canopïau sy’n bodoli eisoes.”

Bydd y data yn cefnogi plannu coed wedi’i dargedu, yn gymorth i weld lle mae’r llefydd mwyaf effeithiol i blannu coed newydd, yn ogystal â helpu sefydliadau i gynllunio plannu fydd yn ategu’r canopïau sy’n bodoli eisoes.

Beth mae’r map yn ddangos

Mae pob llain canopi yn y set ddata yn dod i un o bedwar categori:

  • Coed Unigol – canopïau coed unigol.
  • Grwpiau o Goed – clystyrau o goed sy’n ffurfio canopi sy’n cael ei rannu.
  • Coetiroedd Bach – ardaloedd mwy nad ydynt wedi eu cynnwys ar fap coetiroedd y RhGG.
  • Canopi Drosgrog – canopi coed sy’n crogi dros goetir presennol RhGG (y gellir ei ddefnyddio ochr yn ochr â mapiau coetiroedd RhGG).

Mae arwynebeddau o ganopi hefyd wedi eu rhannu yn ddosbarthiadau uchder – o goed bychain (3m) hyd at enghreifftiau mawr sydd dros 30 metr o uchder — sy’n rhoi mwy o fewnwelediad i strwythur a dosbarthiad oedran coed ledled Cymru.

Gellir gweld y map ar-lein ar MapDataCymru.

Daw cyhoeddi’r data yn sgil rhaglen ymchwil debyg a gynhaliwyd ar gyfer coed y tu allan i goetiroedd yn Lloegr llynedd ac a gyllidwyd gan raglen Cyfalaf Naturiol ac Asesu Ecosystemau (NCEA) Defra. Am fwy o wybodaeth, ewch at Trees Outside Woodland Map – Forest Research.

Gwybodaeth  Ychwanego

  • Forest Research yw’r prif sefydliad ym Mhrydain Fawr ar gyfer ymchwil cysylltiedig â choedwigaeth a choed, ac y mae iddynt enw da yn rhyngwladol am ddarparu tystiolaeth a gwasanaethau gwyddonol i gefnogi coedwigaeth gynaliadwy.
  • Defnyddir paramedrau i neilltuo pob nodwedd i un o bedwar o ddosbarthiadau o fath o goetir: Coed Unigol – coed unigol, a ddangosir fel ardaloedd canopi bychain, ar wahân gyda brig un goeden ynddynt. Grwpiau o Goed – clystyrau bach o goed yn tyfu’n agos at ei gilydd o fewn yr un llain canopi. Coetiroedd Bach – arwynebeddau mwy, di-dor o goed sy’n cwrdd ag isafswm maint (0.1ha). Canopi Drosgrog (CD RhGG) – rhannau o ganopi coed, lle mae’r bonyn y tu mewn i RhGG, sydd yn crogi dros ffiniau RhGG o 10m neu lai.

Recent News

View All news

Rhoddwyd caniatâd i fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil newydd i nodi rhestr fer o rywogaethau cynhyrchiol o goed, fydd yn addas ar gyfer amodau hinsawdd yn awr ac a ragfynegir yng Nghymru.

Rhoddwyd caniatâd i fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil newydd i nodi rhestr fer o rywogaethau cynhyrchiol o goed, fydd yn addas ar gyfer amodau hinsawdd yn awr ac a ragfynegir yng Nghymru.

This field is hidden when viewing the form