Skip to main content

Cael eich Cyfrif – cymerwch ran yng Nghyfrifiad y Gweithlu Coedwigaeth, Prydain Fawr

Beth yw Cyfrifiad y Gweithlu Coedwigaeth, Prydain Fawr?

Mae Forest Research, ar ran y Comisiwn Coedwigaeth, Scottish Forestry, a Llywodraeth Cymru, yn cynnal Cyfrifiad y Gweithlu Coedwigaeth. Y nod yw deall yn well sut beth yw gweithlu gweithrediadau coedwigaeth ym Mhrydain Fawr heddiw.

Bydd y Cyfrifiad yn nodi maint y gweithlu a graddfa gweithrediadau coedwigaeth. Bydd gwybodaeth fanwl gywir a chyfoes am faint a ffurf y gweithlu coedwigaeth yn helpu’r sector i gynllunio at y dyfodol, nodi lle mae bylchau sgiliau a chynorthwyo i sefydlu camau i wneud y mwyaf o botensial coedwigaeth.

Pwy sy’n cael cais i gyflwyno gwybodaeth a phryd?

Gofynnir i fudiadau ar draws y sector coedwigaeth i gyflwyno gwybodaeth am eu gweithlu ar ddau ddyddiad ar wahân – ar 1 Hydref 2026 ac 1 Mawrth 2027 – i gymryd i ystyriaeth rolau sy’n rhai tymhorol. 

Mae gan fudiadau fis wedi’r dyddiadau hyn i lenwi’rholiadur am bwy oedd yn gweithio ar y dyddiadpenodol hwnnw.os bydd unigolyn yn gweithio ar 1 Hydref 2026 a 1 Mawrth 2027, dylid eu cyfrif am ddau ddiwrnod y cyfrifiad.

Mae Cyfrifiad Gweithlu Coedwigaeth mis Hydref nawr yn fyw. Bydd gan fudiadau tan 30  Hydref i gyflwyno eu data.

Aiff Cyfrifiad Gweithlu Coedwigaeth mis Mawrth yn fyw ar 1 Mawrth 2027. Bydd gan fudiadau tan 31 Mawrth i gyflwyno eu data.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol.

Gwahoddir pob mudiad i gymryd rhan, o’r rhai sydd ag un person yn unig i gwmniau mwy gyda llawer o bobl ac is-fudiadau, boed yn gyflogedig a/neu ar gontract.

Pwy ddylai gymryd rhan:

  • Mudiadau gyda dim ond un unigolyn, fel unig fasnachwyr a sefydliadau un-person,  organisations, yr holl ffordd at sefydliadau mwy

Pwy na ddylai gymryd rhan:

  • Unigolion a gyflogir gan fudiad. Anelir yr arolwg at gyflogwyr yn hytrach na gweithwyr. Dylai’r rhai mewn safle uwch ac sy’n gwneud penderfyniadau, megis Prif Weithredwyr a chyfarwyddwyr AD, lenwi’r arolwg ar eich rhan.

Beth mae Cyfrifiad y Gweithlu Coedwigaeth yn ymdrin ag ef?

Bydd y Cyfrifiad yn dal gwybodaeth am bobl sy’n gweithio (yn gyflogedig, ar gontract neu fel arall) ar y gweithgareddau a ganlyn o ran gweithrediadau coedwigaeth:

  • cynllunio
  • cynhyrchu coed /gwaith mewn planhigfeydd
  • paratoi tir, plannu, sefydlu neu gynnal a chadw
  • rheoli coetiroedd a/neu reoli pobl sy’n gweithio ar goetiroedd
  • cynaeafu
  • tynnu pren a gwaith cludo
  • gwaith tirfesur a chreu rhestrau eiddo.

O hyn allan, cynhelir y Cyfrifiad bob pum mlynedd. Bydd canlyniadau’r Cyfrifiad ar gael i’r cyhoedd.

Sut mae fy mudiad yn cymryd rhan?

Ar 1 Mawrth 2027, bydd Cyfrifiad gweithlu Coedwigaeth mis Mawrth yn mynd yn fyw. Gellir cyflwyno holiaduron o 1 – 31 Mawrth 2027.

Ymynwch i dderbyn e-lythyr newyddion Forest Research i gael eich atgoffa cyn i Gyfirifiad mis Mawrth fynd yn fyw.

Caiff yr holl ddata a ddarperir ei drin yn hollol gyfrinachol a chaiff ei gasglu ynghyd gyda data o fudiadau eraill fe na fydd modd adnabod unrhyw fusnes unigol mewn unrhyw gyhoeddiad nac adroddiad arall.

Canllawiau atodol

Canllaw i Gyfrifiad y Gweithlu Coedwigaeth, Prydain Fawr [PDF, 386kb]

Tablau holiadur atodol [XLSX, 15kb]

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch 0300 067 5238 neu ebostiwch statistics@forestresearch.gov.uk.

"*" indicates required fields

This field is hidden when viewing the form