Beth yw Cyfrifiad y Gweithlu Coedwigaeth, Prydain Fawr?
Mae Forest Research, ar ran y Comisiwn Coedwigaeth, Scottish Forestry, a Llywodraeth Cymru, yn lansio Cyfrifiad y Gweithlu Coedwigaeth. Y nod yw deall yn well sut beth yw gweithlu gweithrediadau coedwigaeth ym Mhrydain Fawr heddiw.
Bydd y Cyfrifiad yn nodi maint y gweithlu a graddfa gweithrediadau coedwigaeth. Bydd gwybodaeth fanwl gywir a chyfoes am faint a ffurf y gweithlu coedwigaeth yn helpu’r sector i gynllunio at y dyfodol, nodi lle mae bylchau sgiliau a chynorthwyo i sefydlu camau i wneud y mwyaf o botensial coedwigaeth.
Pwy sy’n cael cais i gyflwyno gwybodaeth a phryd?
Gofynnir i fudiadau ar draws y sector coedwigaeth gyflwyno gwybodaeth am eu gweithlu ar ddau ddyddiad ar wahân – ar 1 Hydref 2026 ac 1 Mawrth 2027 – i gymryd i ystyriaeth rolau sy’n rhai tymhorol.
Bydd gan fudiadau fis wedi’r dyddiadau hyn i lenwi’r holiadur am bwy oedd yn gweithio ar y dyddiad penodol hwnnw. Os bydd unigolyn yn gweithio ar 1 Hydref 2026 a 1 Mawrth 2027, dylid eu cyfrif am ddau ddiwrnod y cyfrifiad.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol.
Gwahoddir pob mudiad i gymryd rhan, o’r rhai sydd ag un person yn unig i gwmnïau mwy gyda llawer o bobl ac is-fudiadau, boed yn gyflogedig a/neu ar gontract.
Pwy ddylai gymryd rhan:
- Cwmnïau gyda dim ond un unigolyn, fel unig fasnachwyr a sefydliadau un-person, yr holl ffordd at sefydliadau mwy
Pwy na ddylai gymryd rhan:
- Unigolion a gyflogir gan fudiad. Anelir yr arolwg at gyflogwyr yn hytrach na gweithwyr. Dylai’r rhai mewn safle uwch ac sy’n gwneud penderfyniadau, megis Prif Weithredwyr a chyfarwyddwyr AD, lenwi’r arolwg ar eich rhan.
Beth fydd Cyfrifiad y Gweithlu Coedwigaeth yn ymdrin ag ef?
Bydd y Cyfrifiad yn dal gwybodaeth am bobl sy’n gweithio (yn gyflogedig, ar gontract neu fel arall) ar y gweithgareddau a ganlyn o ran gweithrediadau coedwigaeth:
- cynllunio
- cynhyrchu coed /gwaith mewn planhigfeydd
- paratoi tir, plannu, sefydlu neu gynnal a chadw
- rheoli coetiroedd a/neu reoli pobl sy’n gweithio ar goetiroedd
- cynaeafu
- tynnu pren a gwaith cludo
- gwaith tirfesur a chreu rhestrau eiddo.
O hyn allan, cynhelir y Cyfrifiad bob pum mlynedd. Bydd canlyniadau’r Cyfrifiad ar gael i’r cyhoedd.
Rhowch eich enw i gael rhybudd ebost
I gael eich atgoffa ymlaen llaw cyn i’r Cyfrifiad fynd yn fyw ym misoedd Hydref a Mawrth, llofnodwch i dderbyn e-lythyr newyddion Forest Research.
Sut mae fy mudiad yn cymryd rhan?
- Paratoi
Rhwng nawr ac 1 Hydref 2026 a 1 Mawrth 2027, gallwch gynllunio sut i gasglu’r wybodaeth a ganlyn am eich gweithlu (mae angen i’r data a gyflwynir adlewyrchu’r darlun fel y mae yn eich mudiad ar 1 Hydref a 1 Mawrth 2027):
- sawl gweithiwr Cyfatebol Llawn Amser (CLlA) oedd yn gweithio ar weithgareddau yn ymwneud â choedwigoedd –
- yn ôl rôl (gweler rhestr *1 isod)
- yn ôl gwlad y safle
- yn ôl grŵp oedran
- yn ôl rhyw
- faint o’r rhai Cyfatebol Llawn Amser (CLlA) oedd yn hyfforddeion neu’n brentisiaid yn gweithio ar weithgareddau yn ymwneud â choedwigoedd
- faint o waith yn ymwneud â choedwigoedd a wnaed dan weithgareddau penodol (gweler *2) yn y flwyddyn ddiwethaf neu flwyddyn waith nodweddiadol o fewn y pum mlynedd a aeth heibio
- pa rolau yn eich barn chi sydd fwyaf anodd eu llenwi
2. Cymryd Rhan
Ar 1 Hydref 2026 ac 1 Mawrth 2027, bydd y Cyfrifiad yn mynd yn fyw.
- Ewch at y dudalen hon i lenwi’r holiadur ar-lein
- Os na allwch lenwi’r ffurflenni ar-lein, ffoniwch 0300 067 5238 neu e-bostiwch statistics@forestresearch.gov.uk i ofyn am gopi o’r holiadur; gellir ei gyflwyno trwy e-bost
Bydd angen cyflwyno’r holiaduron erbyn:
- 30 Hydref 2026
- 31 Mawrth 2027
Caiff yr holl ddata a ddarperir ei drin yn hollol gyfrinachol a chaiff ei gasglu ynghyd gyda data o fusnesau eraill fe na fydd modd adnabod unrhyw fusnes unigol mewn unrhyw gyhoeddiad nac adroddiad arall.
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch 0300 067 5238 neu e-bostiwch statistics@forestresearch.gov.uk
*1 – Rolau gwaith coedwigaeth
- Planhigfa coedwigaeth
- Technegydd neu reolwr cnydau
- Gweithiwr neu asiantaeth planhigfa
- Cynllunio
- Asiant, rheolwr, ymgynghorydd neu goedwigwr
- Syrfëwr
- Rheoli coedwigoedd
- Gweithiwr coedwig neu grefftwr/wraig
- Prysgoedio
- Sefydlu a chynnal a chadw
- Ffensio
- Plannu
- Gweithiwr paratoi tir
- Rheolwr gwaith coedwig
- Goruchwyliwr
- Asiant, rheolwr, ymgynghorydd neu goedwigwr
- Rheolwr bywyd gwyllt, rheolwr pläon neu drywyddwr
- Gweithiwr coedwig neu grefftwr/wraig
- Cynaeafu (gan gynnwys teneuo) tynnu a chludo
- Gweithiwr coedwig neu grefftwr/wraig
- Gweithiwr llif gadwyn (cwympo)
- Rheolwr gwaith coedwig
- Goruchwyliwr
- Triniwr peiriannau
- Cynaeafwr
- Cludwr ymlaen
- Arall
- Gyrrwr wagen
- Gweithiwr coedwig neu grefftwr/wraig
- Arall
- Peiriannydd sifil
- Coedwigwr cymunedol
- Gweithiwr drôn
- Ecolegydd
- Technegydd GIS
- Ymgynghorydd ar amgylcheddau hanesyddol
- Swyddog coed i awdurdod lleol
- Trinwyr peiriannau (peirianneg sifil)
*2 – Gweithgareddau penodol a wnaed yn y flwyddyn ddiwethaf neu flwyddyn waith nodweddiadol o fewn y pum mlynedd a aeth heibio.
- Cynhyrchu coed mewn planhigfa [Nifer o goed]
- Planning [Hectarau]
- Plannu o’r newydd (gan gynnwys paratoi a chynnal a chadw’r tir) [Hectarau]
- Ailstocio [Hectarau]
- Arwynebedd o goetir dan reolaeth (gan gynnwys coetiroedd newydd) [Hectarau]
- Gwaith tirfesur a chreu rhestrau eiddo [Hectarau]
- Cynaeafu [Metrau ciwbig]
- Cludo [Tunelli]