Crynodeb
Mae dangosyddion Coetiroedd i Gymru (CiG) yn monitro cynnydd tuag at strategaeth Coetiroedd i Gymru , a gyfoeswyd ddiwethaf gan Lywodraeth Cymru yn 2018.
Cafodd y dangosyddion eu hadolygu a’u diweddaru yn 2026 er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn dal yn berthnasol ac yn addas at y diben. Mae’r gyfres a ddiweddarwyd yn cryfhau’r alinio rhwng dangosyddion a deilliannau lefel-uchel y strategaeth ac yn rhoi gwell sylfaen o dystiolaeth i gefnogi llunio polisïau a gwneud penderfyniadau am goetiroedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys bod yn sail o wybodaeth i bolisïau ehangach defnydd tir a mentrau megis blaenoriaethu creu ac adfer coetiroedd brodorol, a hybu coed trefol, yn ogystal â chefnogi gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016.
Cynhyrchir y dangosyddion gan Forest Research ar ran Llywodraeth Cymru.
Amcanion yr Ymchwil
Yr oedd y gwaith hwn yn adolygu’r dangosyddion blaenorol, a ddatblygwyd yn wreiddiol yn dilyn strategaeth gyntaf Coetiroedd i Gymru yn 2001, ac yn asesu i weld a oeddent yn dal yn addas.
Cynlluniwyd y dangosyddion a ddiweddarwyd i wneud y canlynol:
- asio gydag 20 deilliant lefel-uchel strategaeth Coetiroedd i Gymru
- defnyddio ffynonellau data sy’n gyson, yn ddibynadwy ac yn ailadroddadwy
- gwella tryloywder wrth fesur newid dros amser
- nodi bylchau mewn tystiolaeth a blaenoriaethau ar gyfer datblygu yn y dyfodol
Cafodd gwelliannau mewn casglu a dadansoddi data eu hymgorffori lle’r oedd hynny’n briodol er mwyn gwella cadernid a gwrthrychedd..
Mae’r dangosyddion yn darparu tystiolaeth ar draws pum thema: coetiroedd a choed, ymateb i newid hinsawdd, coetiroedd i bobl, sector coedwigaeth cystadleuol a chynaliadwy, ac ansawdd amgylcheddol.
Cyfoesiad Diweddaraf
Cyhoeddwyd dangosyddion diweddaraf Coetiroedd i Gymru ym mis Mehefin 2026.
Dangosyddion Coetiroedd i Gymru
Mae’r dangosyddion diwygiedig wedi eu strwythuro o gwmpas pum thema strategaeth Coetiroedd i Gymru. Lle bo’r data yn caniatáu, adroddir am dueddiadau mewn cymhariaeth â’r cyhoeddiad blaenorol yn 2019. Mewn rhai achosion, mae newidiadau mewn methodoleg neu ffynonellau data newydd wedi cyfyngu ar gymharu uniongyrchol.
Mae diweddariad 2026 yn ymgorffori data gwell a thystiolaeth newydd, gan gynnwys gwybodaeth am faint coetiroedd, coed y tu allan i goetiroedd, gwasanaethau ecosystem, a chyfraniad economaidd y sector coedwigaeth.
Bydd Forest Research yn parhau i gynnal a diweddaru’r dangosyddion ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys diweddaru setiau data wrth i ddata newydd ymddangos, mireinio dulliau lle bo hynny’n briodol, ac ymdrin â bylchau a nodwyd mewn tystiolaeth.
Gwneir cyhoeddiadau am ddiweddariadau yn y dyfodol ar y dudalen hon.
Cyllido a Phartneriaid
-
Llywodraeth Cymru