Skip to main content

Mae Rhestr y Goedwig Genedlaethol (RhGG, fersiwn Saesneg yn unig) yn monitro coed mewn coedwigoedd ym Mhrydain, ond eto, mae llawer o goed heb fod yn tyfu mewn coetiroedd, ond fe’u ceir fel coed unigol, mewn gwrychoedd ac mewn parciau a gerddi, neu fel nodweddion bach o goed mewn tirweddau amaethyddol a threfol.

Mae’r coed hyn y tu allan i goetiroedd yn adnoddau naturiol pwysig ac y maent yn gwneud cyfraniadau pwysig i stociau carbon cenedlaethol, bioamrywiaeth a chyfalaf naturiol. Mae’n bwysig eu bod yn cael eu monitro, fel y gellir eu rheoli a’u gwarchod yn well.

Mae data yn awr am gael am goed y tu allan i goetiroedd ledled Cymru a Lloegr.

Coed y tu Allan i Goetiroedd yn Lloegr

Rhaglen Genedlaethol Asesu Cyfalaf Ecosystemau (cyllidir gan Defra)

Mae prosiect  y Coed y tu Allan i Goetiroedd (CAG) yn Lloegr yn rhaglen Genedlaethol Asesu Cyfalaf Ecosystemau (NCEA) gyson a redir gan Defra ac a fwriadwyd i ddarparu gwybodaeth fanwl am faint, dosbarthiad, cyfansoddiad a chyflwr Coed y tu Allan i Goetiroedd yn nhirweddau Lloegr a sut y maent yn rhyngweithio gydag ecosystemau heb fod yn goetiroedd.

Coed y tu Allan i Goetiroedd yng Nghymru

Data Coed y tu Allan i Goetiroedd yng Nghymru (cyllidir gan Lywodraeth Cymru)

Mae map cenedlaethol newydd yn dangos lleoliad coed y tu allan i goetiroedd ledled Cymru yn awr ar gael am y tro cyntaf.

Mae’r rhaglen ymchwil gynhwysfawr, a gynhaliwyd gan Forest Research, ac a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, yn defnyddio’r delweddau lloeren diweddaraf a data o arolwg cenedlaethol LiDAR i nodi coed y tu allan i goetiroedd, gan ddatgelu bod y coed hyn yn cynrychioli 30% o’r gorchudd coed cenedlaethol ar hyd a lled Cymru.

This field is hidden when viewing the form