Skip to main content

Prosiect newydd i greu rhestr fer o rywogaethau o goed Cymreig i helpu gwytnwch coedwigoedd yn y dyfodol

Date
27 November 2025
Reading Time
5 minutes
Last Updated
26 November 2025

Rhoddwyd caniatâd i fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil newydd i nodi rhestr fer o rywogaethau cynhyrchiol o goed, fydd yn addas ar gyfer amodau hinsawdd yn awr ac a ragfynegir yng Nghymru.

Comisiynwyd Forest Research, prif asiantaeth ymchwil coedwigaeth Prydain Fawr, gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhestr o rywogaethau o goed fydd yn helpu i gryfhau gwytnwch, cynhyrchedd a chynaliadwyedd coetiroedd Cymru yn y tymor hir. Bydd Woodknowledge Wales, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Napier Caeredin yn gweithio gyda Forest Research i ddatblygu’r rhestr fer.

Pennawd y ddelwedd: O lan Llyn Clywedog yn edrych i lawr y cwm tuag at Lanidloes. Llethrau coediog a chaeau mewn dyffryn yn y Canolbarth. Coetiroedd cymysg o larwydd, pinwydd, pyrwydd a choed llydanddail. Hefyd, gellir gweld adeiladau ger gwaelod argae Bryntail.
Pennawd y ddelwedd: O lan Llyn Clywedog yn edrych i lawr y cwm tuag at Lanidloes. Llethrau coediog a chaeau mewn dyffryn yn y Canolbarth. Coetiroedd cymysg o larwydd, pinwydd, pyrwydd a choed llydanddail. Hefyd, gellir gweld adeiladau ger gwaelod argae Bryntail.

Amlygwyd yr angen am restr fer o’r fath gan strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth Cymru “Datblygu’r diwydiant pren yng Nghymru a rhaglenni tebyg ledled y DU. Yn ddiweddar, mae’r Alban wedi cwblhau eu prosiect eu hunain i greu rhestr fer, a gyllidwyd gan Scottish Forestry, ac y mae gwaith tebyg ar waith yn awr yn Lloegr, a gyllidir gan Lywodraeth y DU. 

Bydd y prosiect Cymreig yn rhedeg ochr yn ochr â gwaith yn Lloegr, gan greu cyfleoedd sylweddol ar gyfer cydweithredu, cyd-asio a rhannu gwersi ar draws y tair cenedl mewn meysydd megis bridio coed, cyflenwi planhigion a hadau, ac ymchwil coedwrol. Canolbwynt allweddol y gwaith yng Nghymru fydd ymchwilio i nodweddion coed a datblygu’r farchnad.

Mae blaenoriaethu rhywogaethau o goed yn mynd at galon modelau busnes, strategaethau masnachol, a chredoau proffesiynol a diwylliannol. Bydd creu rhestr fer o rywogaethau o goed i Gymru yn ymdrech gan dîm. Gwahoddir pobl o bob rhan o’r sector coedwigaeth i edrych i mewn i syniadau a chyfleoedd am dyfu, prosesu a defnyddio pren  brodorol yn y dyfodol, gyda’r nod o adeiladu diwydiant coedwigaeth cryf a gwydn.

Y rhywogaethau ar y rhestr fer Gymreig fydd y rhai a ystyrir yn addas i weithredu arnynt yn awr, tra bydd rhestr arall wrth gefn yn nodi rhywogaethau addawol y bydd angen ymchwilio ymhellach iddynt cyn eu rhoi ar waith.

Caiff yr ymdrechion eu cydgordio ar lefel y DU gan Grŵp Adnoddau Genetig Coedwigoedd y DU (UKFGR), fydd yn sicrhau cydlyniad, cysondeb, ac agwedd gyfun tuag at amrywio rhywogaethau.

Meddai David Edwards, ymchwilydd arweiniol y prosiect yn Forest Research, “Bu’r sector coedwigaeth yn dibynnu ers tro byd ar ystod gul o rywogaethau cynhyrchiol o goed. Wrth i newid hinsawdd gyflymu ac i fygythiadau o du plâon a chlefydau ddal i gynyddu, daeth yr angen i gael mwy o amrywiaeth o rywogaethau coed yng Nghymru yn fwyfwy yn fater o frys. Bydd datblygu rhestrau byrion o rywogaethau addas gyda chanolbwynt rhanbarthol y cytunir arnynt, trwy gydweithio  gydag arbenigwyr a rhanddeiliaid ar draws y sector coedwigaeth, yn helpu i gryfhau gwytnwch, cynhyrchedd a chynaliadwyedd coetiroedd Cymru a’r DU yn y tymor hir.”

Ychwanegodd David, “Gyda’i gilydd, bydd y mentrau ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban yn un o’r ymarferion cydgordio mwyaf cynhwysfawr o gasglu tystiolaeth a gynhaliwyd erioed er mwyn dethol rhywogaethau o goed masnachol yn y DU. Bydd hyn yn cefnogi ac yn sail o wybodaeth i raglenni amrywio coedwigaeth a bydd yn sylfaen gydlynus seiliedig ar dystiolaeth y gall yr holl sector coedwigaeth adeiladu arno.”

Bydd hyn yn cefnogi ac yn sail o wybodaeth i raglenni amrywio coedwigaeth a bydd yn sylfaen gydlynus seiliedig ar dystiolaeth y gall yr holl sector coedwigaeth adeiladu arno.

Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies: “Mae angen i goedwigoedd fod yn iach a gwydn os ydynt am gynnal a gwella eu gallu i gynhyrchu pren, darparu cynefinoedd o ansawdd wych i fywyd gwyllt, a pharhau i gyflawni i gymdeithas. Rhaid i ni baratoi ein coedwigoedd ar gyfer y dyfodol, gan ymaddasu’n briodol i newid hinsawdd, cyflwyno mwy o amrywiaeth a chymysgedd briodol er mwyn gwytnwch yn y dyfodol. Mae lansio’r prosiect hwn yn gam pwysig i gynllunio at y dyfodol, sy’n hanfodol o gadw mewn cof y cylchoedd tymor-hir cymharol sy’n fodd o sicrhau y gall Cymru gyrchu stoc sy’n amrywiol yn genetig ac yn addas i’r hinsawdd i blannu coedwigoedd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Gary Newman, Prif Weithredwr Woodknowledge Wales,  “Mae’n wych cydweithio’n agos gyda Forest Research, gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Napier Caeredin ac amrywiaeth eang o randdeiliaid yn y diwydiant yng Nghymru er mwyn sicrhau y gallwn wneud y defnydd gorau o amrywiaeth o rywogaethau o goed. Yn ein barn ni, mae’r prosiect hwn yn galluogi cydweithredu yn y dyfodol fydd yn canolbwyntio ar fwy o wytnwch mewn coedwigaeth ac yn ei gadwyni gwerth cysylltiedig.”

Diben y rhestrau byrion yw cefnogi gwneud penderfyniadau strategol ledled y sector. Nid bwriad y rhestrau byrion yw pennu’r dewis o rywogaethau ar y lefel weithredol neu mewn safleoedd, lle bydd rheolwyr tir yn parhau i ystyried yr amodau, amcanion a’r dewisiadau lleol yn unol â Safon Coedwigaeth y DU a chanllawiau eraill.

Y tu hwnt i nodi rhestrau byrion o rywogaethau, bydd y fframwaith asesu a ddatblygwyd trwy’r prosiectau hyn yn rhoi gwerth parhaol fel erfyn ar gyfer cynllunio strategol, penderfyniadau gweithredol, cyfnewid gwybodaeth, addysg a hyfforddi’r gweithlu yn ogystal ag amlygu bylchau yn y dystiolaeth bresennol y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Recent News

View All news

Rhoddwyd caniatâd i fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil newydd i nodi rhestr fer o rywogaethau cynhyrchiol o goed, fydd yn addas ar gyfer amodau hinsawdd yn awr ac a ragfynegir yng Nghymru.

Rhoddwyd caniatâd i fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil newydd i nodi rhestr fer o rywogaethau cynhyrchiol o goed, fydd yn addas ar gyfer amodau hinsawdd yn awr ac a ragfynegir yng Nghymru.

This field is hidden when viewing the form