Skip to main content

Mae Coedwig Ymchwil Cymru yn rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru (NFfW).  Mae’r dull newydd hwn yn mwyafu cyfleoedd i alluogi ymchwil sy’n seiliedig ar goed yng Nghymru i gael ei pharu’n optimaidd â choetir a safle, a bydd hefyd yn galluogi atgynhyrchu gwaith o’r fath hwn yn haws mewn lleoliadau addas ledled y wlad.

Mae’r NFfW yn cynnwys llawer o wahanol fathau o goedwigoedd a safleoedd sy’n amrywiol iawn; rhai trefol a gwledig, y Coetiroedd Bach (Tiny Forests) a hyd yn oed blociau ar lefel; y dirwedd. Mae’n cynnwys safleoedd ar dir cyhoeddus a phreifat, coetiroedd cymunedol, coedwigaeth gynhyrchiol, ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraeth, hamdden a bioamrywiaeth.  Mae natur Cymru gyfan yr NFfW yn cynnig cyfle unigryw i gyflawni allbynnau ymchwil cydlynol o safleoedd sy’n amrywio o ran eu nodweddion daearyddol a’u hinsawdd, â gwahanol sbardunau economaidd-gymdeithasol.

Bydd gweithgareddau yng Nghoedwig Ymchwil Cymru yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddeilliannau NFfW, yn benodol: ‘coetiroedd o ansawdd da, wedi’u cynllunio a’u rheoli’n dda’; ‘coetiroedd sy’n hygyrch i bobl’ a ‘chyfranogiad cymunedau mewn coetiroedd’ (e.e., trwy Gyfnewid Gwybodaeth a gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion); ‘coetiroedd a choed deinamig, amlbwrpas’; a ‘choetiroedd sy’n amlygu dysgu, ymchwil ac arloesedd’. 

Bydd cyfraniad y Goedwig Ymchwil at ganlyniadau cyhoeddedig Coetiroedd i Gymru yn cael ei fonitro a cheir adroddiadau am hynny drwy’r tudalennau gwe hyn a thrwy brosiect Dangosyddion Coetiroedd i Gymru.

Manteision dull Cymru gyfan

Bydd amrywiaeth Coedwig Ymchwil Cymru yn caniatáu i ymchwilwyr nodi gofynion ar gyfer meysydd arbrofol yn seiliedig ar nodweddion penodol i’r safle megis math o bridd, hydroleg, agwedd, uchder, y gymysgedd o rywogaethau, dosbarthiad o ran dosbarth cymdeithasol ac oedran, y math o strwythur a’r dull rheoli, agosrwydd at gymunedau, ac ati.  Bydd y gofynion hyn yn cael eu cyfleu’n rheolaidd i aelodau rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru i geisio annog perchnogion/rheolwyr coetiroedd priodol i fynegi diddordeb.

Efallai y bydd rhai perchnogion/rheolwyr coetiroedd yn dymuno cychwyn gweithgareddau ymchwil ar eu heiddo ac efallai y byddant yn dymuno cael cymorth ymarferol a chyngor gwyddonol i wneud hynny. Bydd Swyddog Cyswllt Coetiroedd NFfW mewn sefyllfa dda i frocera cyswllt ag aelodau priodol o’r gymuned ymchwil.

Heb os, bydd rhywfaint o gyfleoedd i gyfranogi mewn “gwyddoniaeth dinasyddion” a/neu gyfleoedd i gymunedau gyfranogi yn y naill ddull neu’r llall.

Bydd y Goedwig Ymchwil yn hwyluso sefydlu arbrofion a mannau arddangos ledled Cymru a fydd yn cynyddu’r opsiynau o ran digwyddiadau Cyfnewid Gwybodaeth, cyfleoedd cysylltiedig ar gyfer gweithgareddau addysgol, a rhannu profiadau a gafwyd.  Bydd dull cynhwysol, cydweithredol a hygyrch o astudio a lledaenu canfyddiadau yn cael ei annog o’r cychwyn cyntaf.

Sut fydd Coedwig Ymchwil Cymru yn gweithio?

  • Bydd yr NFfW yn cynnig y fframwaith y bydd y Goedwig Ymchwil yn rhan ohono.
  • Rydym yn rhagweld y bydd gweithgareddau ymchwil fel arfer yn cael eu hysgogi mewn un o ddwy ffordd:
    • ymchwilwyr yn cysylltu ag aelodau o’r Rhwydwaith Coedwigoedd Cenedlaethol i drafod posibiliadau o ran casglu data yn eu coetiroedd; neu
    • perchnogion/rheolwyr coetiroedd yn dymuno ysgogi gweithgareddau ymchwil ar eu heiddo ac yn ceisio cymorth a chyngor ymarferol gan wyddonwyr coedwigaeth.
  • Bwriedir y bydd cyfranogi mewn gweithgareddau ymchwil yn rhywbeth hollol ddewisol ac na fydd bod yn rhan o rwydwaith NFfW yn gosod rhwymedigaeth ar berchnogion na rheolwyr i gynnal arbrofion neu arddangosiadau o unrhyw fath.
  • Ni fydd yn ofynnol i aelodau presennol rhwydwaith NFfW ymgymryd ag unrhyw brosesau ychwanegol na bodloni unrhyw amodau ychwanegol.

Cysylltwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithredu ynghylch ymchwil yng Nghymru.