Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian

Am Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian

Croeso i gylchlythyr cyntaf Bwlch Nant yr Arian

Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yw prif gyfleuster ymwelwyr yng Ngheredigion. Mae’r lleoliad ger llyn hyfryd yn gyfleus yn ymyl ffordd yr A44.

Cewch fwynhau gwylio’r Barcudiaid Cochion yn cael eu bwydo bob dydd (os caniata'r tywydd) am 3yp yn yr haf (2yp yn y gaeaf), sydd yn cynnig cyfle gwych am weld yr adar mewn sefyllfa wyllt a hardd. Dilynnwch y llwybr Barcud pob gallu am yr olygfeydd gorau

Mae dwy daith gerdded dynodedig yn dechrau yn y Canolfan Ymwelwyr, a hefyd Llwybr Glannau’r Llyn Pob Gallu sydd yn rhoi cyfle i bawb gael mwynhau prydferthwch naturiol yr ardal.

Mae gan y Ganolfan tri llwybr beiciau mynydd unlon yn cynnig teithiau gwefreiddiol i’r mwy anturus, a dau lwybr ceffyl dynodedig.

Beth yw’r dyfodol?

Ni fydd y ffaith bod y Ganolfan Ymwelwyr yn cael ei rheoli’n uniongyrchol yn amharu mewn unrhyw ffordd ar y gwasanaeth y mae ymwelwyr wedi dod i’w ddisgwyl. 
Rydym yn gwybod cymaint y mae Bwlch Nant yr Arian yn ei olygu i chi, a gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn rhannu eich balchder yn y ganolfan a’r goedwig o’i chwmpas, sydd wedi dod yn rhan mor bwysig o’r economi lleol.
Rydym yn ddiolchgar i Ceredig a Janet, y tenantiaid presennol, am eu holl waith caled ers i’r ganolfan newydd agor bum mlynedd yn ôl, ond mae’r estyniad i’w tenantiaeth, a oedd yn cael ei gyfyngu gan reolau cyllido’r UE, yn dod i ben yn naturiol.
Byddwn felly yn manteisio ar y cyfle hwn i ailasesu gwerth y busnes ac i wneud rhai gwelliannau i’r ganolfan cyn adolygu ein dewisiadau rheoli.
Ar hyn o bryd, ni wyddom a fydd unrhyw gynlluniau ar gyfer y safle yn golygu y bydd yn rhaid cau’r ganolfan dros dro, ond gallwch fod yn siwr y bydd ein hymrwymiad i Fwlch Nant yr Arian yn dal mor gryf ag erioed.
Mae’r ansicrwydd ynghylch mynediad posibl i unrhyw fferm wynt hefyd yn ei gwneud yn amser priodol i ddod â’r caffi dan reolaeth uniongyrchol gan ein bod yn teimlo y byddai’n annheg disgwyl i unrhyw denant wynebu risg busnes anhysbys.
Rydym yn argyhoeddedig fod gan Fwlch Nant yr Arian ddyfodol cyffrous, yn sgil ein buddsoddiad parhaus yn y ganolfan, sy’n cynnwys gwelliannau diweddar i hwyluso mynediad i bobl o bob gallu a’r gwaith a fydd yn cychwyn yn fuan ar y toiledau allanol newydd a’r cawodydd ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio’r safle y tu allan i oriau gwaith arferol.
Un peth arall – wnawn ni ddim anghofio bwydo’r barcutiaid, y mae eu sesiynau bwydo dyddiol wedi dod yn atyniad mor boblogaidd!

Rhif Ffôn: 01970 890453.

Sut i gyrraedd:

Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian is in Nant yr Arian. Ponterwyd yw'r dref neu'r pentref agosaf.

10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar yr A44, dwy filltir i'r gorllewin o Bonterwyd.

Mae bws rhif 525 o Aberystwyth i Bonterwyd/Llanidloes yn aros wrth fynedfa'r maes parcio.

Cyfeirif Grid yr OS: SN718813
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Postcode SY23 3AD (for satnav purposes)

Mannau eraill i fynd i mewnNant yr Arian

Beth sydd ymlaen a Nant yr Arian

Medi

  • FSC Friday
    Dydd Gwener 24 Medi 2010 at Dydd Sul 26 Medi 2010

Hydref

View all events

Cyfleusterau:

ToiletsParking ChargeInformationParkingEasy AccessVisitor CentreRefreshmentsForest Shop

Gweithgareddau:

EducationalWildlife ActivitiesOrienteeringPicnicPlay AreaView Point
Walking Llwybr y Mwynwyr
Llwybr yGrib
Llwybr Barcud
Cycling Llwybr Beicio Mynydd Summit
Llwybr Beicio Mynydd Pendam
Llwybr Beicio Mynydd Syfydrin
HorseRiding.gif Mynediad agored ar lwybrau coedwigaeth.

Cyswllt:

Gareth Owen
-
0300 068 0300
e-bost: gareth.owen1@forestry.gsi.gov.uk