Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Ymchwil Coedwig yn cynnal dau seminar undydd i edrych ar rai o’r plâu ac afiechydon sy’n effeithio ar goed a choetiroedd yng Nghymru.
Cynhelir y seminar cyntaf yn Neuadd Bentref Clawdd Newydd ger Rhuthun ar Ddydd Mercher, 3 Medi, a chynhelir yr ail seminar y diwrnod canlynol yn Neuadd Henderson, Tal-y-bont ar Wysg yn ne Cymru. Bydd y ddau seminar yn cychwyn am 10am a byddant yn cynnwys sesiwn dan do a thaith faes fer.
Rhai o’r materion a drafodir fydd newid yn yr hinsawdd a’r effaith a gaiff hyn ar blâu ac afiechydon, afiechydon sy’n effeithio ar nodwyddau pinwydd a’r wybodaeth ddiweddaraf am bryfed. Hefyd, cynhelir ‘cymhorthfa’ lle gall y cynrychiolwyr drafod plâu ac afiechydon sy’n peri problemau iddynt ag arbenigwyr.
I drefnu lle ac i gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â Lyn Ackroyd, Ymchwil Coedwig, Cefn Gethiniog, Tal-y-bont ar Wysg, Aberhonddu, ffôn: 01874 676444, e-bost lyn.ackroyd@forestry.gsi.gov.uk.