| Y Gwaith I Ddatrys Tirlithriad Tyndyrn I Gychwyn Yn Fuan | Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd peirianwyr arbenigol a gyflogir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn cychwyn y gwaith i ddatrys problem y tirlithriad sydd wedi achosi pryder mawr i drigolion Tyndyrn.
|
| Coetir Cymunedol Sy’N Arddangos Dyluniadau Plant Yn Cipio Gwobr | Mae coetir cymunedol sy’n arddangos doniau dylunio plant ysgol lleol wedi cipio gwobr amgylcheddol.
Trawsffurfiwyd coetir cymunedol Bryn Beaufort, ger Glyn Ebwy, yn adnodd amgylcheddol gwerthfawr i’r gymuned gyfan yn sgil grant o £112,500 gan Cydcoed, rhaglen grantiau £16 miliwn Comisiwn Coedwigaeth Cymru a gyllidir gan yr UE (Amcan Un) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
|
| Ystafell Ddosbarth Coetir Newydd Yn Dangos Y Ffordd I Ddysgu Awyr Agored Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru | Agorir ystafell ddosbarth coetir newydd yn swyddogol ym Mharc Gwledig Tafarn y Celyn yng nghalon AHNE Bryniau Clwyd.
|
| Pontio’R Blynyddoedd – Comisiwn Coedwigaeth Cymru Yn Ennill Gwobr Bwysig Am Ddiogelu Hanes Dyfrffyrdd Cymru | Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi derbyn canmoliaeth gan un o brif sefydliadau peirianneg sifil y DU am y gwaith a wnaed ganddo i arbed pont 200 oed, yr unig ran o rwydwaith camlas hanesyddol Aberhonddu a Sir Fynwy nad yw wedi cael ei rhestru.
|
Mwynhau’R Hydref Yng Nghymru – Plant Yn Efelychu
Bill Oddie Yn Y Coed | Mae plant ysgol wedi bod yn efelychu Bill Oddie drwy gynnal eu fersiwn eu hunain o ‘Autumnwatch’, rhaglen deledu boblogaidd y BBC, yn un o goedwigoedd harddaf Sir Gaerfyrddin.
|
| Ysbrydion Lond Y Goedwig, Bwganod Yn Y Coed - Ai Hon Oedd Y Nos Galan Gaeaf Fwyaf Dychrynllyd Eto? | Noson codi arswyd oedd yn y goedwig ger Aberystwyth – cafwyd y Nos Galan Gaeaf fwyaf dychrynllyd erioed ac roedd hi’n noson i’w chofio ar 31 Hydref wrth i bob tocyn gael ei werthu ar gyfer y dathliadau.
|
| Comisiwn Coedwigaeth Cymru Yn Lansio Cynllun Prentisiaeth Fodern Newydd | Mae Cynllun Prentisiaeth Fodern Sylfaenol newydd yn cael ei sefydlu gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru mewn ymateb i ddiffyg sgiliau yn y sector coedwigaeth.
|
| Ynni Adnewyddadwy A Busnes Gwledig – Partneriaeth Adfywio | Manteisiodd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gweledig, ar y cyfle i weld sut mae ynni adnewyddadwy yn gallu helpu busnesau gwledig pan ymwelodd hi â Phrosiect y Garreg Las yn Sir Benfro.
|
| Addysgu’R Athrawon – Canolfan Ddysgu Goetirol Newydd Yn Barod I Fynd Yn Fyw | Mae canolfan ddysgu goetirol newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn barod i fynd yn fyw ar ôl blynyddoedd o waith caled – a’r disgyblion cyntaf yw’r athrawon eu hunain!
|
| A Welwn Ni Fôr O Liw? | A ninnau wedi cael y fath law yr haf hwn, a fyddwn ni’n cael dyfrlliwiau yn hytrach na lliwiau’r hydref eleni?
|
| Clwb Cynffig Yn Denu’R Plant | Pwy a ddywedodd fod gwyliau’r haf yn gallu bod yn ddiflas? Mae criw o blant rhwng wyth a deuddeg oed wedi bod yn gwrthbrofi’r honiad hwn tra’n mwynhau’r awyr agored fel rhan o raglen ddyfeisgar o ddigwyddiadau yng Ngwarchodfa Natur Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr.
|